Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Mawrth 2022
Amser:
13.30 -
16.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12639
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Samuel Kurtz AS (yn lle Altaf Hussain AS) Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Steve Chamberlain, Domestic Energy Efficiency and Fuel Poverty Policy Lead Mark Alexander, Head of Public Sector Decarbonisation, Innovation and Fuel Poverty Chris Pugh, Archwilio Cymru Mark Jeffs, Archwilio Cymru Seth Newman, Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Altaf Hussain. Roedd Sam Kurtz yn dirprwyo ar ei ran.
Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
Datganodd Sam Kurtz fuddiant fel cyfarwyddwr yr elusen gofrestredig: Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
2 Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Sesiwn dystiolaeth 5
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
3 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
3.1 Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy'n wynebu rhieni sy'n gweithio
3.2 Gohebiaeth gan Gomisiwn y Senedd ar y defnydd o’r term BAME
3.3 Gohebiaeth gan Teithio Ymlaen ynghylch gweithredu Deddf Tai (Cymru).
3.4 Gohebiaeth gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi ynghylch gorfodi o ran dyledion.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(iv) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
Derbyniwyd y cynnig.
5 Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Sesiwn friffio gydag Archwilio Cymru
Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Archwilio Cymru.
6 Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â nifer o eitemau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.
7 Ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar gynigion i ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998: trafod gohebiaeth ddrafft
Bu'r Aelodau'n ystyried llythyr at yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder a chytunwyd arno.
8 Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: Gwaith craffu blynyddol – adroddiad drafft
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd i'w gwblhau y tu allan i'r Pwyllgor.
9 Blaenraglen waith
Trafododd yr Aelodau y Flaenraglen Waith a chytunwyd arni.
10 Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: Adroddiad monitro
Nododd yr Aelodau yr adroddiad monitro ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth o ran y dyddiad cau ar gyfer trwyddedau teulu y Cynllun.